Cyfrifeg Craff. Cefnogaeth Real.

Croeso i Fraser Wood, cwmni cymwysedig proffesiynol sydd wedi’i leoli ym Mangor, Gwynedd, yn darparu gwasanaethau a chyngor arbenigol mewn treth a chyfrifo.

Ble mae rhifau yn gwneud synnwyr a phobl yn dod yn gyntaf.

Am dros 25 mlynedd, rydym wedi gweithio gyda busnesau a theuluoedd lleol, ledled Bangor, Caernarfon, Pwllheli, Conwy, ac Ynys Môn.

Fel arbenigwyr mewn busnesau a reolir gan berchennog a’r hunan-gyflogedig, rydyn ni’n darparu arweiniad arbenigol pob cam - o lansio eich busnes i gynllunio ymadael neu eich ymddeoliad.

Fel Cynghorydd Proffesiynol QuickBooks ardystiedig, ein bwriad yw gwneud cyfrifo cwmwl yn syml ac yn ddi-straen, gan eich helpu i aros yn drefnus ac yn gydymffurfiol â Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) gyda chyngor sy’n glir ac wedi’i deilwra i’ch anghenion.

Rydyn ni’n torri trwy’r iaith gymhleth, egluro eich cyllid, ac yn eich helpu i wneud penderfyniadau busnes gwell. O dreth a chydymffurfio i gynllunio twf a chyngor bob dydd, rydyn ni yma i symlhau’r broses a’ch cefnogi pob cam o’r ffordd.

Dechreuwch gyda ni - mae’r sgwrs am ddim, mae’r coffi’n dda, a mae’r cyngor arbenigol yn briodol i chi.

Chartered Institute of Taxation Logo Quickbooks Logo Making Tax Digital ProAdvisor Logo