Byddwn yn eich helpu i osod targedau a rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i chi er mwyn eich galluogi i gyrraedd eich nodau. Gyda’n teclynnau monitro byddwch yn deall a ydych yn gwneud cynnydd a phryd byddwch yn cyflawni eich amcanion.
Mae nifer o dasgau y mae’n rhaid i chi eu cwblhau at ddibenion cyfreithiol a threth. Gallwn eich cynorthwyo i sefydlu systemau effeithlon i wneud eich tasgau cydymffurfiaeth yn ddefnyddiol a gwerthfawr i chi ac ar gyfer eich busnes.
Bydd ein cefnogaeth a’n cyngor yn ychwanegu gwerth i’ch busnes. Darparwn adborth hanfodol ar berfformiad busnes, gan roi cyngor i’ch helpu i ganolbwyntio ar yr hyn all wella’r perfformiad hwnnw. Byddwn yn eich helpu i wneud penderfyniadau i’ch galluogi i adeiladu busnes cryfach.
Mae newid mewn busnes ac mewn bywyd yn anochel i bob un ohonom. Mae’r newid hwn yn gyson ac yn anorfod; gall fod yn boen meddwl. O gyllideb y Canghellor a deddfwriaeth y llywodraeth i amgylchiadau teuluol cymhleth a chynnwrf personol, gallwn helpu.
Rhown declynnau a chyngor i chi i wneud eich busnes yn gryf a sicrhau bod eich arian yn gweithio’n galed ar eich rhan. Rydym yn fusnes teuluol a thÎm cyfeillgar, yma i helpu eich teulu i adeiladu diogelwch a sefydlogrwydd ariannol.
Dewch i siarad â ni. Yn eich ymgynghoriad cyntaf rydym yn gobeithio y gallwn feithrin sylfaen o ymddiriedaeth a dealltwriaeth a fydd yn eich helpu chi, eich busnes a/neu eich teulu.